top of page

Lle i berthyn
Croeso i Gynllun Corfforaethol
Grŵp Cynefin 2025-28:
Wrth i ni ddathlu ein carreg filltir 10 mlynedd, rydym yn gyffrous i rannu ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Mae ein cynllun corfforaethol newydd, wedi ei ddylunio ar y cyd gyda’n tenantiaid a chwsmeriaid, staff ac aelodau bwrdd, yn canolbwyntio ar ddatblygu a thrawsnewid busnes.
​
Rydym wedi ymrwymo i adeiladu sefydliad gwydn, modern sy’n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru.
Ein nod yw darparu gwasanaethau a chanlyniadau o ansawdd uchel i denantiaid, cwsmeriaid, staff, a chymunedau, gan bwysleisio bod tai yn fwy nag adeiladau yn unig - mae'n lle i berthyn.

bottom of page